Swyddfa
Menter Bro Ogwr
Tŷ’r Ysgol
Pen yr Ysgol
Maesteg CF34 9YH
Ffôn a ffacs 01656 732200
|
CLYBIAU CIC
<< Blaenorol Dewiswch Nesaf >>
ieuenctid2007a ieuenctid2007b ieuenctid200801a ieuenctid200801b ieuenctid200804 ieuenctid200804a
 << Blaenorol Dewiswch Nesaf >>


Teithiau Hanner Tymor y Sulgwyn Unwaith eto, dros hanner tymor mi fydd CIC yn mynd a phobl ifanc yr ardal ar deithiau.
Mae croeso i ddisgyblion adran iau yr ysgolion cynradd ymuno a ni ar ddydd Mawrth y 27ain o Fai ar daith i Funtasia ym Mhorthcawl. Trafnidiaeth, nofio, bowlio deg a chinio i gyd yn gynwysedig yn y pris. £14.50
Mae'r amser wedi cyrraedd unwaith eto ar gyfer ein taith flynyddol i Oakwood. Y 30ain o Fai yw'r dyddiad i roi yn eich dyddiadur. Bws a thocyn mynediad £23.00
Am ragor o wybodaeth, neu i gadw llefydd ar y teithiau, cysylltwch â Jordan ar 01656 732 200 neu 07929 923 806. Gallwch hefyd e-bostio os ydych yn dymuno - jordan@menterbroogwr.org
JMH
10/04/2008
|
Clybiau Ieuenctid Cymraeg! A oeddech chi'n gwybod fod Menter Bro Ogwr yn rhedeg clybiau ieuenctid ar draws y sir i blant sydd yn derbyn addysg Gymraeg? Mae gennym 3 clwb yn y sir, mae Clwb Ffynci Sger a chlwb Gorilas y Garw ar agor i adran iau'r ysgolion cynradd a blwyddyn 7, ac mae Clwb dreigiau Ogwr ar agor i flynyddoedd 7, 8 a 9 Ysgol Llanhari.
Mae'r clybiau yma wedi bod yn rhedeg ers sbel bellach, ac rydym nawr yn estyn gwahoddiad at bobl ifanc ysgolion sydd heb gael y cyfle yn y gorffennol. Felly os hoffech i'ch plentyn cymdeithasu tu allan i oriau'r ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg, beth am ddod draw i weld beth sydd yn digwydd yn ein clybiau?
Clwb Ffynci Sger - Nos Lun, 17.30 tan 19.30, £1 Mynediad
Pafiliwn Corneli, Meadow Street, Gogledd Corneli
Clwb Gorilas y Garw - Nos Fercher, 18.00 tan 20.00, £1 Mynediad
Canolfan Richard Price, Llangeinwyr
Clwb Dreigiau Ogwr - Nos Iau, 18.00 tan 20.00, £1 Mynediad (blynyddoedd 7, 8 a 9 yn unig) Canolfan y YMCA, Penybont
02/02/2008
|
|
|
MBO ar y we...
Mae gan y fenter tudalennau ar Facebook, Bebo a Myspace. Pam na ei di draw i gael golwg? Cofiwch ycwanegu'r fenter fel ffrind!
JMH
10/04/2008
|
Gweithdai Clybiau CIC Mae clybiau ieuenctid CIC yr ardal wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar. Rydym wedi bod wrthi yn gwneud gweithdai o bob math.
Ym mis Tachwedd, daeth gweithdy syrcas i’r clybiau. A chawsom ni gyd gyfle i ddysgu sgiliau newydd, fel sut i droi plât ar ffon a sut i gerdded ar stilts. Y gweithgaredd mwyaf poblogaidd ar y noson oedd y diablo, a dysgu sut i’w ddefnyddio. Roedd pawb yn cystadlu i weld pwy oedd yn gallu gwneud y triciau orau gyda’r offer.
Ym mis Rhagfyr, fe ddaeth tiwtor i’r clybiau i wneud sesiynau drymio gyda ni. Doeddwn i erioed wedi gweld cymaint o ddrymiau gwahanol mewn un ystafell.
Roedd y tiwtor yn dangos i ni sut i wneud rhythmau yn defnyddio gwahanol ddrymiau ac offer taro. I ddod a’r noson i ben, roedd y tiwtor yn canu un o ganeuon y ffilm ‘Lion King’ ar y gitâr tra oedd y grŵp yn chwarae’r drymiau. Roedd pawb yn y clwb wedi mwynhau’r sesiwn yn fawr iawn. 
14/12/2007
|
|
|
Instant Slide Show!
|
Diwrnod o antur yn awyr agored Porthcawl |
|
Mae Clwb Ieuectid
CIC ar gael yng Nghorneli, yn y pafiliwn ym meysydd
chwarae Corneli ac ym Mhen y Bont, yn y YMCA ac yng Nghanolfan Richard Price, Llangeinor.
Mae
aelodau Corneli wedi bod yn mwynhau gweithgareddau Chwaraeon,
Celf a Chrefft, Dawnsio Disgo a Chystadleuthau.
Sialens sydd wedi sefyll mas i glwb CIC Corneli yn ystod
y flwyddyn ddiwethaf oedd pêl droed pump bob ochr
yn erbyn yr Heddlu yn enwedig pan wnaeth yr aelodau
ennill.
|
Mae
clwb ieuenctid yr YMCA wedi bod yn gwneud yr un pethau,
a’r peth mwyaf sydd wedi sefyll mas iddyn nhw
oedd aros lan trwy gydol y nos o 7yh i 7yb, gyda rhywun
yn chwarae ar y bwrdd tenis trwy’r amser.
Croeso i aelodau newydd a syniadau newydd am fwy o hwyl
yn eich clybiau chi. |

Trip Sbaen Gorffennaf 2006

. 
Clwb Dreigiau Bro Ogwr |
| |
Ieuenctid
ar y We cliciwch yma > Cicio
Ieuenctid
ar y We cliciwch yma > Cicio
|